Un o'm prif hobïau ydy ffotograffiaeth, ac mae o wedi rhoi i mi lawer o bleser dros y blynyddoedd.
I fi, un o'r gwefannau gorau i ddod allan o'r "Web2.0 revolution" ydy Flickr, gwefan rhannu ffotos. Dwi'n ei defnyddio i ddangos rhai o'm gweithiau fy hun ac i gael ysbrydolaeth gan edrych ar lluniau pobl eraill. Mae rhan fwyaf y lluniau yma wrth M-Space ac ar fy mlog yn byw ar Flickr, ac os cliciwch chi ar y llun, ewch chi i fy nghyfri Flickr, lle fedrwch chi weld (fel arfer) fersiwn fwy y llun, a gweld fy ngwaith arall. Mantais y safle ydy'r ffaith bod chi'n medru rhoi'ch lluniau mewn grwpiau a'u disgryfio efo tagiau, sy'n wneud hi'n llawer haws i drefnu casgliadau mawr o luniau.
Dyma fy ffoto wedi'i weld y mwyaf ar Flickr (pan sgwennes i hyn):
Nid ffotograffiaeth mo'r unig ffurf o gelfyddydau gweledol dwi'n ei wneud.
Dwi'n mwynhau hefyd paentio ac arlunio, ond dwi'n wneud yr rhain llawer llai aml na tynnu lluniau efo camera. Dwi wedi rhoi ffotos o rhai o fy lluniau wedi'u paentio/arlunio ar Flickr. Dyma dyfryliw a wnes i ychydig flynyddoedd yn ôl:
Y dyddiau hyn, mae'r rhan fwyaf o fy ngwaith artistig yn mynd ar fy nghyfrifiadur rhywbryd yn ei oes, ac yn aml dwi'n wneud mwy o waith arno fo yno. Fel arfer, dim ond tocio neu addasu'r lliwiau wna i, ond weithiau dwi'n wneud pethau mwy lloerig. Dyma enghraifft:
Fy hoff meddalwedd graffeg cyffredinol ydy GIMP. Ar yr achlusuron pan dwi'n gorfod defnyddio graffeg fector, dwi'n defnyddio Inkscape, ac ar gyfer gweld lluniau yn unig, dwi'n tueddu o ddefnyddio gThumb pan dwi'n rhedeg Linux (sef, rhan fwya'r amser) neu IrfanView ar Windows.

