Pan dwi'n mynd i dŷ rhywun am y tro cyntaf, fel arfer dwi'n mynd yn syth at eu silffoedd llyfrau, nid yn unig achos dwi'n hoff iawn o lyfrau ond hefyd achos mae'n ffordd ardderchog o ddysgu am rywun a'u diddordebau. Ar wefan, dwi'n meddwl fod y tudalen dolennau yn eitha tebyg.

Yn blynyddoedd diweddar, dwi wedi bod yn defnyddio gwefan llyfrnodio cymdeithasol (sef, "social bookmarking") del.icio.us er mwyn cael gafael ar ddolennau at wefannau sydd â diddordeb i mi. Yn ogystal â fy ngalluogi i fynd at fy llyfrnodau oddi wrth unrhyw gyfrifiadur efo cysylltiad we, mae'n golygu mod i'n medru rhannu dolennau efo ffrindiau ac aelodau fy nheulu yn hawdd ac i archwilio dolennau eraill bod pobl wedi'u postio ar bwnciau tebygol (neu hollol wahanol). Mae'r safle yn defnyddio sustem o dagiau ar gyfer disgrifio ac archwilio llyfrnodau.

Yn well na geisio cynnal casgliad arall o ddolennau yma, a fasai'n eitha bach ac allan o ddêt yn gyflym siwr o fod, dyma rhai ddolennau at wahanol adrannau fy llyfrnodau del.icio.us:

Ella fyddwch chi'n ffeindio nhw yn ddiddorol er mwyn fy nallt yn well. Hefyd, mae'n bosib bydd rhai ohonyn nhw'n defnyddiol i chi. Os dewch chi o hyd i unrhyw ddolennau sy ddim yn gweithio yno (neu ar M-Space), neu os oes gynnoch chi ddolennau eraill dach chi'n meddwl faswn i'n eu mwynhau, gadewch i mi wybod.