Pwy ydy Magnus?
Magnus ydy'r boi a rhodd yr M i mewn i M-Space.
Pam M-Space yn hytrach na rywbeth mwy disgrifiadol (ar y wyneb) fel Gwefan Magnus? Roeddwn i eisiau enw mwy neilltuol ar gyfer y wefan. Fel mathemategydd, roedd gen i arfer treulio llawer fy amser yn gweithio mewn gosodau gwahanol, er mod i ddim yn wneud cymaint o hyn bellach, a gan mai Magnus ydy f'enw i awgrwymodd yr enw ei hun ata i heb ormod o goffi.
I ddechrau, dyma llun ohona i:
Os dach chi'n darllen y dudalen yn astud, fyddwch chi wedi dysgu o leia dri pheth amdana i erbyn hyn: mathemategydd dw i, dwi'n chwarae'r ukulele, ac mae gen i locsyn. Dach chi ar fin ddarganfod hefyd hefyd mod i'n hoff iawn o gyflythreniad, yn arbennig efo'r llythyryn 'M'.
Mathemateg
Wnes i fy ngradd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Nottingham rhwng 1995 a 1999, ac wedyn symudes i i Fangor (yng Nhgymru) i wneud doethuriaeth mewn algebra. Wnes i'w gorffen ym mis Chwefror 2004. Fel arfer mae'r brawddeg "mathemategydd dwi" yn hen ddigon i ladd unryw sgwrs mewn parti, ond os oes gynnoch chi ddiddordeb, fedrwch chi gael cip olwg ar fy thesis: Representations of Crossed Modules and Cat1-Groups (PDF; 800Kb).
Ers gorffen fy noethuriaeth, dwi heb wneud llawer o ymchwil mathemategol (wedi 4 mlynedd o algegra difrifol, rôn i angen bach o doriad!). Am sbel, weithies i yn rhan amser mewn adran mathemateg y brifysgol (ym Mangor o hyd) fel darlithydd, gan ddysgu cyrsiau ar algebra a "mathemateg ar gyfer cyfrifiadureg" i fyfyrwyr blwyddyn cyntaf, ond wedyn daeth cyrsiau is-raddedig mathemateg i ben yn y brifysgol ac roedd rhaid i mi gael swydd newydd. Efo dewis rhwng aros yn fy maes academaidd neu aros yn fy ardal, benderfynes i aros yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio fel gweinyddiwr i Eglwys Bedyddwyr Penrallt (swydd sy'n cynnwys cynnal eu gwefan).
Cerddoriaeth
Yn ogystal â'r ukulele yn y llun uchod, dwi'n chwarae sawl offerynau gwahanol. Mae gen i ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o ddulliau cerddoriaeth, ac mae hi'n ddigon pwysig i fi i gael ei thudalen ei hun.
Ym mis Tachwedd 2004, ddechreues i wneud Dawns Gwerin Albaneg. I gychwyn, fy nyddordeb ynddo oedd i helpu fi i ddeall y gerddoriaeth yn well, ond yn gyflym ddes i i'w fwynhau cymaint mod i'n dal i'w wneud.
'Marf i
Wnes i dyfu fy locsyn yn gyntaf yn syth wedi gadael yr ysgol, yn 18 oed. Wnes i'r camgymeriad o'i siafio ar ôl pythefnos o wersylla mewn haf sych a heulog iawn, a wnaeth adael i mi wyneb dau-liw (fel rhai hen geir Ford Cortina o'r 80au). Dwi erioed wedi siafio ers hynny. Dwi'n hoff iawn o fy marf, a faswn i ddim yn cael gwared ohono hyd yn oed tasech chi'n fy nhalu yn ddrud iawn (ond dwi'n agored at gynnigion mawr iawn...)