Rhan pwysig iawn o'm bywyd ydy cerddoriaeth. Ynghŷd â gwrando ar amrywiaeth eang o ddulliau cerddorol, dwi'n chwarae sawl offerynau. Mae gen i ddiddordeb yn rhan fwyaf ffurfiau cerddoriaeth, yn arbennig jazz a canu gwerin.

Beth dwi'n ei chwarae?

Y ffidil ydy fy mhrif offeryn, ond dwi'n mwynhau trial chwarae unrhywbeth fedra i roi fy nwylo arno. Yn bennaf dwi'n chwarae offerynnau tant. Dyma'r rhai o'r offerynnau sy gen i: feiolin, fiola, mandolin, banjô (5-tant), gitar, gitar bas, balalaika, bouzouki, telyn (bach Celtaidd), ukulele, recorder, chwiban tun, ffliwt trwyn, harmonica, kazoo, trwmped, jembe, bongos. Dwi'n chwarae bas dwbl a tiwba hefyd, ond dwi'n benthyg yr rhain.

Lle dwi'n chwarae?

Ers yr Haf 2000, dwi'n chwarae ffidil, efo tipyn o banjô a chwiban tun (a weithiau pethau eraill hefyd), yng ngrwp twmpath Defaid Du. O dro i dro, mi a i i sesiynau canu gwerin mewn tafarndai lleol, ond dim mor aml ag ôn i o'r blaen.

Hefyd, dwi'n chwarae bas dwbl fel rhan o driawd o'r enw The Rice Hooligan Orchestra. Aelodau eraill y band ydy ffidlwr (sy biau'r bas mod i'n chwarae arno) a gitarydd; mae'r ddau ohonynt yn rhannu swydd fel prif ganwr y band. Yn ogystal â'r bas, dwi'n canu llais cefndir o dro i dro a chwarae ychydig bach ar y ffliwt trwyn. Dan ni'n chwarae cymysgiad eitha eclectig o gerddoriaeth o safonau jazz a swing at ganeuon traddodiadol Cymreig, gan wneud fersiynau o ganeuon gan bobl megis Tom Waits a Harry Belafonte. Efallai'r disgryfiad gorau o'n swn dwi wedi clywed hyd yn hyn ydy "demented Western Swing"; yn sicr dyna'r un mwyaf doniol.

Weithiau, dwi am ddychwelyd i'm gwreiddiau clasurol, ac ar hyn o bryd dwi'n aelod o adran feiolin cyntaf Cerddorfa Cymdeithas Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Y peth mwyaf newydd dwi'n wneud efo cerddoriaeth ydy dysgu'r tiwba. Dwi'n ei chwarae efo Band Arian Seindorf Biwmares - dwi'n rhan o band i ddechreuwyr (band "Last of the Summer Wind").

Ers symud i Fangor, dwi'n aelod rheolaidd o grwp cerddorol Eglwys Bedyddwyr Penrallt; ar hyn o bryd dwi'n chwarae ffidil ar gyfer rhan fwyaf gwasanaethau'r nos a gitar (neu weithiau bas) yng ngwasanaethau'r bore bob yn ail mis, gan chwarae pethau gwahanol o dro i dro. I drafod materion cerddoriaeth mewn cyd-destun ehangach addoli Cristnogol, dwi'n aelod hefyd o Worship Released, fforwm Cristnogol arlein, sy'n canolbwyntio ar bwnc addoli.